mozilla.org

Llwythwch i lawr y Firefox cyflymaf erioed

Gwnewch beth bynnag hoffwch chi ar-lein. D'yw
Firefox Browser ddim yn eich gwylio.

Rydyn ni'n rhwystro tracwyr hysbysebion. Rydych chi'n crwydro'r rhyngrwyd yn gynt.

Mae hysbysebion yn blino pawb ac yn gwneud i dudalennau gwe lwytho'n arafach, tra bod eu tracwyr yn gwylio pob symudiad rydych chi'n ei wneud ar-lein. Mae'r Firefox Browser yn rhwystro'r mwyafrif o dracwyr yn awtomatig, felly does dim angen i chi fynd i'ch gosodiadau diogelwch.

Mae Firefox ar gyfer pawb

Ar gael mewn dros 90 o ieithoedd, ac yn gweithio ar gyfrifiaduron Windows, Mac a Linux, mae Firefox yn gweithio ar beth bynnag rydych chi'n ei ddefnyddio neu ble rydych chi. Gwnewch yn siŵr fod eich system weithredu yn gyfredol am y profiad gorau.

Gwiriwch ofynion y system

Rhowch Firefox ar eich holl ddyfeisiau

Ewch â'ch preifatrwydd gyda chi i bobman. Mae gan Porwyr Firefox Browser, iOS ac Android yr un gosodiadau preifatrwydd cryf i rwystro tracwyr rhag eich dilyn o amgylch y we, lle bynnag rydych chi.

Gwneud popeth gyda Firefox

Gwnewch eich hun yn gartrefol yn eich Firefox

  • Estyniadau ar gyfer pob diddordeb

    O ddiogelwch i newyddion i gemau, mae yna estyniad ar gyfer pawb. Ychwanegwch gynifer ag y dymunwch nes bod eich porwr yn iawn i chi.

  • Newid eich edrychiad

    Mynd o'r modd golau i'r modd tywyll yn dibynnu ar eich hwyliau neu'ch dewis, neu fywiogi pethau gyda thema arfer (uncorn enfys, efallai).

  • Addasu eich gosodiadau

    Does dim angen bodloni. Gallwch newid y dudalen tab newydd, bar chwilio, nodau tudalen a mwy i grwydro'r rhyngrwyd yn y ffordd rydych chi ei eisiau.

Gyda chefnogaeth y corff nid-er-elw sy'n rhoi pobl yn gyntaf

Yn herio'r sefydliad er 1998

Crëwyd Firefox gan Mozilla fel dewis arall cyflymach, mwy preifat i borwyr fel Internet Explorer, a nawr Chrome. Heddiw, mae ein cwmni sy'n cael ei yrru gan genhadaeth a'n cymuned wirfoddol yn parhau i roi eich preifatrwydd o flaen pob dim.

Mae eich preifatrwydd yn flaenoriaeth.

Wrth i'r rhyngrwyd dyfu a newid, mae Firefox yn parhau i ganolbwyntio ar eich hawl i breifatrwydd - rydyn ni'n ei alw'n Addewid Data Personol: Cymerwch lai. Cadwch e'n ddiogel. Dim cyfrinachau. Mae eich data, eich gweithgaredd gwe, eich bywyd ar-lein wedi'i warchod gyda Firefox.

Cadwch eich holl hoff nodweddion porwr - a darganfod rhai newydd.

Yn gweithio gyda chynnyrch Google

Mae'ch holl hoff offer Google (fel Gmail a Docs) yn gweithio'n ddi-dor yn y porwr Firefox Browser.

Cydweddwch eich dyfeisiau

Mae Firefox ar gael ar eich holl ddyfeisiau; ewch â'ch tabiau, eich hanes a'ch nodau tudalen gyda chi. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw cyfrif Cyfrif Mozilla a byddwch yn cael mynediad at gydweddu a rhagor o gynnyrch Mozilla.

Lluniau Sgrin

Cipiwch ddelwedd cydraniad uchel o unrhyw beth ar-lein gyda'n teclyn llun sgrin wedi'i adeiladu o fewn y porwr

Diogelwch Uwch Rhag Tracio

Mae Firefox yn rhwystro'n awtomatig llawer o dracwyr trydydd parti rhag casglu a gwerthu eich gweithgaredd gwe.

Llun-mewn-Llun

O wylio tiwtorial gwe i gadw llygad ar eich hoff dîm, mae eich fideo yn eich dilyn wrth i chi amldasgio.

Cwestiynau? Mae gan Cymorth Mozilla yr atebion.