cy.wikipedia.org

Brech wen - Wicipedia

(Ailgyfeiriwyd o Brech Wen)

Brech wen
Enghraifft o:clefyd heintus, dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd Edit this on Wikidata
Mathclefyd heintus firol, clefyd y croen, Poxviridae infectious disease, eradicated disease, clefyd, amgylchiadau marwolaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben1978 Edit this on Wikidata
SymptomauBlinder meddwl, brech, cur pen, poen yn yr abdomen, chwydu, pothell, pimple edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rhestr Afiechydon

Pigiad

Pwyswch ar dangos i weld y rhestr.
Rhestr
AIDS

Afiechyd meddwl
Alcoholiaeth
Annwyd
Anorecsia nerfosa
Asma
Syndrom Asperger
Awtistiaeth
Blinder meddwl
Brech goch
Brech ieir
Brech Wen
Briwiau'r geg
BSE
Cansar
Cen gwallt
Clefyd Alzheimer
Clefyd y galon
Clefyd y gwair
Clefyd y siwgr
Clunwst
Clwy'r marchogion
Clwy'r pennau
Clwyf y traed a’r genau
Colera
Creithiau
Croen gyda chraciau
Croen sensitif
Croen sych
Croenlid (Ecsema)
Cur pen
Cur pen eithafol
Cylchrediad y gwaed
Cymalau ystyfnig
Dafad (ar y croen)
Diffyg traul
Dolur annwyd
Dolur gwddw
Dolur rhydd
Yr Eryr
Ffibrosis systig
Ffliw
Ffliw adar
Gorguro’r galon
Gwahanglwyf
Gwlychu gwely
Gwynegon (Cricmala)
Gorguro’r galon
HIV
Iselder ysbryd
Liwcemia
Llau pen
Llais cryglyd
Llid y bledren
Llid y cyfbilen Llosg eira
Llosg haul
Llosgiadau
Malaria
Mislif afreolaidd
Mislif poenus
Mislif ysgafn
Nerfau
Niwmonia
Peswch
Pigyn clust
Plorod
Poliomyelitis
Poeni
Rwbela
Rhwymedd
Twymyn y gwair
Tyndra’r cyhyrau

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Haint a achosir gan ddau feirws, Variola major a Variola minor, yw'r frech wen (Saesneg: Smallpox). Variola major sy'n achosi'r math mwyaf difrifol, gyda 30–35% o'r cleifion yn marw, tra bod llai na 1% o'r rhai a effeithir gan Variola minor yn marw.[1]

Credir i'r haint ymddangos tua 10,000 CC. Yn ystod y 18g, credir fod y frech wen wedi lladd tua 400,000 o Ewropeaid bob blwyddyn. Roedd ei effaith yn waeth ar blant, gyda dros 80% o'r plant yn marw.[2] Erbyn yr 20g roedd brechu yn erbyn yr haint wedi datblygu, ac yn raddol diflannodd o Ewrop, ond parhaodd yn broblem yn y trydydd byd am gyfnod hirach. Amcangyfrifir fod 300–500 miliwn o bobl wedi marw o'r frech wen yn ystod yr 20g. Ar 9 Rhagfyr 1979, cyhoeddodd WHO fod y frech wen wedi ei dileu; yr unig haint i gael ei dileu yn llwyr hyd yma.

Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewtopeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Asteciaid. Fel rheol cael ei drosglwyddo'n anfwriadol yr oedd, ond credir i'r Prydeinwyr ei ledu'n fwriadol ymhlith llwythau brodorol oedd mewn cynghrair a'r Ffrancwyr yng Ngogledd America yng nghanol y 18g, trwy roi blancedi pobl oedd wedi marw o'r frech wen iddynt.

  1. Ryan KJ, Ray CG (editors) (2004). Sherris Medical Microbiology (arg. 4th). McGraw Hill. tt. 525–8. ISBN 0-8385-8529-9.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  2. Barquet N, Domingo P (15 October 1997). "Smallpox: the triumph over the most terrible of the ministers of death". Ann. Intern. Med. 127 (8 Pt 1): 635–42. http://www.annals.org/cgi/content/full/127/8_Part_1/635.