cy.wikipedia.org

Brocoli - Wicipedia

  • ️Tue Dec 25 2018
Broccoli

Brocoli

RhywogaethBrassica oleracea
GrŵpItalica Group
TarddiadYr Eidal (2,000 o flynyddoedd yn ôl)[1][2]
Cynhyrchwyr brocoli a blodfresych yn 2005

Planhigyn bwytadwy yn nheulu'r fresychen ydy brocoli. Mae ei flodyn gwyrdd golau wedi cael ei fwyta fel llysieuyn ers o leiaf cyfnod y Rhufeiniaid a mabwysiadwyd eu henw hwy arno yn Gymraeg a nifer o ieithoedd eraill, sef broccolo (Lladin), sy'n golygu "brig blodeuol y fresychen" a'r ffurf bachigol brocco, sef "hoelen fechan" neu "flaguryn".[3] Fel arfer caiff ei ferwi neu ei stemio, er mwyn ei feddalu ac er mwyn medru ei dreulio'n well.[4]

Dosbarthwyd brocoli i'r grŵp cylfatar 'Italica' o fewn y rhywogaeth Brassica oleracea. O ran ffurf ac edrychiad, mae'n edrych yr un siâp a choeden fechan: gyda'i ganghennau'n ymrannu ar yn ail a bonyn sylweddol; gellir bwyta'r bonyn hefyd. Caiff y blodau gwyrdd golau eu hamgylchu gan ddail, ac mae hyn yn debyg iawn i'r flodfresychen, sy'n grŵp cyltifar gwahanol o fewn yr un rhywogaeth.

Bridiwyd cnydau rêp dros sawl canrif yng ngwledydd gogleddol y Môr Canoldir, gan ddechrau oddeutu 6g CC, a dyma darddiad brocoli.[5] Ers hynny caiff ei ystyried yn fwyd maethlon a phwysig mewn sawl gwlad, yn enwedig gan yr Eidalwyr.[6]

Mewnforiwyd brocoli i Gymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddom, o Antwerp, a hynny yng nghanol y 18g gan Peter Scheemakers.[7] Yn yr Unol Daleithiau, mewnforiwyd ef gan fewnfudwyr Eidalaidd, ond ni ddaeth yn boblogaidd tan y 1920au hwyr.[8]

Brocoli, amrwd (rhannau bwytadwy)
Gwerth fel maeth 100 g (3.5 oz)
Egni141 kJ (34 kcal)

6.64 g

Siwgwr1.7 g
Ffibr2.6 g

0.37 g

2.82 g

Fitamins
Fitamin A

(4%)

31 μg

(3%)

361 μg

1403 μg

Thiamine (B1)

(6%)

0.071 mg
Riboflavin (B2)

(10%)

0.117 mg
Niacin (B3)

(4%)

0.639 mg

(11%)

0.573 mg
Fitamin B6

(13%)

0.175 mg
Folate (B9)

(16%)

63 μg
Fitamin C

(107%)

89.2 mg
Fitamin E

(5%)

0.78 mg
Fitamin K

(97%)

101.6 μg
Metalau
Calsiwm

(5%)

47 mg
Haearn

(6%)

0.73 mg
Magnesiwm

(6%)

21 mg
Manganîs

(10%)

0.21 mg
Ffosfforws

(9%)

66 mg
Potasiwm

(7%)

316 mg
Sodiwm

(2%)

33 mg
Sinc

(4%)

0.41 mg
Ansoddau eraill
Dŵr89.3 g

Canrannau a amcangyfrifwyd ar gyfer oedolion.
Source: USDA Cronfa ddata o faethynau
Y deg prif gynhyrchydd yn 2012
Gwlad Cynhyrchiad (tunelli) Canran (%) Nodyn
 Gweriniaeth Pobl Tsieina 9,500,000 44.67 F
 India 7,000,000 32.92 F
Baner Yr Eidal Yr Eidal 414,142 1.95
 Mecsico 397,408 1.87
 Ffrainc 344,414 1.62
 Gwlad Pwyl 306,776 1.44
 Unol Daleithiau 303,450 1.43
 Pacistan 224,000 1.05 F
 Almaen 176,692 0.83
 Yr Aifft 171,088 0.80
Byd 21,266,789 100 A
* = Data answyddogol | [ ] = Data swyddogol | A = Swyddogol neu answyddogol neu amcangyfrifiad
F = Amcangyfrif FAO | Im = Data FAO | M = Data ddim ar gael

Ffynhonnell: UN Food & Agriculture Organisation (FAO)[9]

Mae'r planhigyn brocoli'n tyfu ar ei orau mewn tywydd claear (ddim yn rhy gynnes nac yn rhy oer): yn enwedig pan gaiff dymheredd dyddiol o rhwng 18 °C a 23 °C.[10] Pan dyf y blodau yng nghanol y planhigyn, mae'r clwstwr yn wyrdd. Yr adeg hon, fel arfer, torrir y rhan uchaf oddeutu dwy gentimetr o'r top, a hynny cyn i'r blodyn droi'n felyn.[11]

Ond ceir math o frocoli (brocoli eginol) a all wrthsefyll tywydd poeth a'r pryfaid a ddaw yn sgil hynny.[12]

Y plâ pennaf yw lindys y Glöyn byw a elwir yn Wyn bach (Pieris rapae), sy'n gyffredin iawn.

Y blodau Brocoli Sicili Piws Deilen
Blodau brocoli Brocoli Romanesco Yn ei flodau Brocoli wedi'i stemio
  1. Buck, P. A (1956). "Origin and taxonomy of broccoli". Economic Botany 10 (3): 250–253. doi:10.1007/bf02899000. http://www.springerlink.com/content/ert85x3082740212/fulltext.pdf. Adalwyd 24 Ebrill 2012.[dolen farw]
  2. Stephens, James. "Broccoli—Brassica oleracea L. (Italica group)". University of Florida. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-25. Cyrchwyd 14 Mai 2009.
  3. "broccoli". Merriam-Webster's Collegiate Dictionary (arg. 11th). t. 156. ISBN 978-0-87779-809-5. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014.
  4. "Broccoli Leaves Are Edible". Garden Betty. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-10. Cyrchwyd 8 Mai 2013.
  5. Maggioni, Lorenzo; Bothmer, Roland; Poulsen, Gert; Branca, Ferdinando (2010). "Origin and Domestication of Cole Crops (Brassica oleracea L.): Linguistic and Literary Considerations". Economic Botany 64 (2): 109–123. doi:10.1007/s12231-010-9115-2. https://archive.org/details/sim_economic-botany_2010-06_64_2/page/109.
  6. Nonnecke, Ib (November 1989). Vegetable Production. Springer-Verlag Efrog Newydd, LLC. t. 394. ISBN 978-0-442-26721-6.
  7. Smith,J.T. Nollekins and His Times, 1829 cyfrol 2:101: "Scheemakers, on his way to England, visited his birth-place, bringing with him several roots of brocoli, a dish till then little known in perfection at our tables."
  8. Denker, Joel (2003). The world on a plate. U of Nebraska Press. t. 8. ISBN 978-0-8032-6014-6. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.
  9. "Major Food And Agricultural Commodities And Producers – Countries By Commodity". Fao.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-19. Cyrchwyd 3 Chwefror 2015.
  10. Smith, Powell (Mehef. 1999). "HGIC 1301 Broccoli". Clemson University. Cyrchwyd 25 Awst 2009.
  11. Liptay, Albert (1988). Broccoli. World Book, Inc.
  12. Takeguma, Massahiro (26 Mai 2013). "Cultivo da Couve Brócolis (Growing Sprouting Broccoli)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-06-16. Cyrchwyd 2015-04-18.