Brynbuga - Wicipedia
- ️Wed Nov 10 2021
![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 2,629 ![]() |
Gefeilldref/i | Graben-Neudorf ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.7036°N 2.9019°W ![]() |
Cod SYG | W04000807 ![]() |
Cod OS | SO375005 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Peter Fox (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Catherine Fookes (Llafur) |
![]() | |
Tref fechan a chymuned yn Sir Fynwy, Cymru, yw Brynbuga[1][2] (Saesneg: Usk). Mae'r enw Saesneg yn deillio o Afon Wysg sy'n llifo trwy'r dref. Hen enw Brythoneg ar gaer Rhufeinig y dref oedd "Burrio", sef caer "cadarn", "cryf", "enfawr" ac efallai i'r gair hwn newid yn "buga".
Sefydlwyd y dref gan y Rhufeiniaid ym 55 OC, gyda'r enw Lladin Burrium.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Peter Fox (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Catherine Fookes (Llafur).[4]
Yn yr Oesoedd Canol Diweddar daeth yn ganolfan Arglwyddiaeth Brynbuga. Llosgwyd Brynbuga gan fyddin Owain Glyndŵr ym 1403, ond cafodd y Saeson fuddugoliaeth yn erbyn Glyn Dŵr ym mrwydr Pwll Melyn, yn agos i Frynbuga, ym 1405.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||
---|---|---|
Poblogaeth cymuned Brynbuga (pob oed) (2,834) | 100% | |
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Brynbuga) (271) | 9.8% | |
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Brynbuga) (1819) | 64.2% | |
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Brynbuga) (454) | 39.3% | |
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
- Adda o Frynbuga, croniclydd canoesol
- Alfred Russel Wallace, biolegydd, 'tad biodaearyddiaeth'
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Tachwedd 2021
- ↑ "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-21.
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]