Cadel Evans - Wicipedia
- ️Mon Feb 14 1977
![]() Evans ar y llwyfan yng nghyflwyniad Tour de France 2010 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Cadel Lee Evans |
Llysenw | Cuddles |
Dyddiad geni | 14 Chwefror 1977 (47 oed) |
Taldra | 1.74 m |
Pwysau | 67 kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Cyffredinol |
Tîm(au) Amatur | |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2001 |
Volvo-Cannondale (MTB) |
Prif gampau | |
Grand Tours
Cymalau
Clasuron un dydd
| |
Golygwyd ddiwethaf ar 25 Gorffennaf 2011 |
Seiclwr proffesiynol o Awstralia ydy Cadel Lee Evans (ganed 14 Chwefror 1977), sydd yn cynyrchioli tîm UCI ProTeam BMC ar y hyn o bryd. Ef oedd enillydd Awstralaidd cyntaf erioed y UCI ProTour yn 2007, enillydd Awstralaidd cyntaf erioed Pencampwriaeth Rasio Ffordd y Byd, UCI yn 2009, ac enillydd Awstralaidd cyntaf erioed y Tour de France yn 2011. Cyn dechrau rasio ar y ffordd yn 2001, roedd Evans yn bencampwr beicio mynydd.[1]
Ar hyn o bryd mae'n byw yn Barwon Heads, ger Melbourne yn Victoria, Awstralia, ac yn ystod y tymor rasio yn Stabio, y Swistir.
Ganed Cadel ar 14 Chwefror 1977 yn Ysbyty Katherine, Katherine, yn Nhiriogaeth Gogleddol Awstralia, yn fab i Helen Cocks, rheolwraig banc, a Paul Evans, fforman y cyngor. Roedd hen daid Evans yn Gymro, a chafodd yr "Cadel" ar ôl tri o Frenhinoedd Cymru o'r enw Cadell.[2]
Bu'n byw yn Upper Corindi, (i'r gogledd o Coffs Harbour) Armidale, De Cymru Newydd ac yn ddiweddarach yn Plenty-Kangaroo Ground-Arthurs Creek, Victoria. Tra'n byw yn Armidale, mynychodd Newling Public School. Symudodd i Victoria pan oedd yn ei arddegau cynnar. Derbyniodd ei addysg VCE (Tystysgrif blwyddyn 12) yn Ysgol Uwchradd Eltham, Melbourne.[3]
Roedd ganddo ddiddordeb mewn nofio, pêl-droed a chriced pan oedd yn ifanc, ond mae Evans ei hun yn credu ei fod yn rhyfedd iddo ddarfod i fyny yn athletwr proffesiynol gan nad oedd siap ei gorff yn gweddu gyda'r rhan helaeth o chwaraeon ysgol Awstralia a oedd yn galw am gryn faint neu gryfder. Dechreuodd seiclo yn gystadleuol ym 1991, gan gystadlu mewn cyclo-cross a beicio mynydd. Dywedodd Evans mai ei fywyd cynnar yn tyfy i fyny yn Armidale, De Cymru Newydd, a'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei yrfa seiclo. Rhoddodd uchder y ddinas fantais cynnar i Evans wrth gystadlu.
Yn 1994, ar awgrym ei hyfforddwr Damian Grundy, dechreuodd gystadlu mewn rasus cylchffordd a rasus ffordd er mwyn helpu gwella ei feicio mynydd. Dechreuodd ei yrfa seiclo rhyngwladol fel aelod o dîm beicio mynydd yr Australian Institute of Sport, odan arweiniaeth y hyfforddwr Heiko Salzwedel a Damien Grundy. Enillodd Evans fedalau efydd ym Mhencampwriaeth Treial Amser Iau a Beicio Mynydd Iau y Byd ym 1995, a medalau arian ym Mhencampwriaeth Beicio Mynydd Odan-23 y Byd yn 1997 ac 1999.
Wedi ymgynghori gyda Michele Ferrari ac odan reolaeth Tony Rominger, newidiodd Evans i gystadlu ar y ffordd yn llawn amser yn ystod haf 2000.[4]
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Cadel_Evans_Bonn_Deutschlandtour_2005.jpg/200px-Cadel_Evans_Bonn_Deutschlandtour_2005.jpg)
Ers troi aty ffordd yn llawn amser, mae Evans wedi reidio dros dimau Saeco (2001), Mapei (2002) a Team Telekom (2003–2004). Yn 2005 ymunodd â Davitamon-Lotto a daeth yn wythfed ar ei dro cyntaf yn cystadlu yn y Tour de France, y reidiwr Awstralaidd cyntaf i orffen yn y deg uchaf ers Phil Anderson.
Roedd ei fuddugoliaethau cynnar yn cynnwys Tour Awstria yn 2001 a 2004, pumed yn y Deutschland Tour yn 2005, cymal o'r Tour Down Under yn 2002, dosbarthiad y mynyddoedd y Tour Down Under yn 2006, 14ydd yn Giro d'Italia 2002, a gwisgodd crys yr arweinydd, y Maglia Rosa mewn un cymal, a threial amser Gemau'r Gymanwlad yn 2002.
Enillodd Evans y Tour de Romandie, gan guro'r Sbaenwyr Alberto Contador ac Alejandro Valverde ar y gymal olaf, sef treial amser 20 km o amgylch Lausanne.
Yn Tour de France 2007, gorffenodd Evans yn ail i Contador. Enillodd dreial amser cymal 13 ac yn ail yn nhreial amser cymal 19. Bu'n bedwerydd yn Vuelta a España 2007, pumed ym Mhencampwriaethau'r Byd a chweched yn ras derfynol y gyfres UCI ProTour, sef y Giro di Lombardia, gan gipio'r fuddugoliaeth yn yr UCI ProTour 247 o bwyntiau o flaen Davide Rebellin ac Alberto Contador.
Yn 2006 a 2007, enwyd yn Seiclwr Awstralaidd y Flwyddyn.
Evans oedd y ffefryn i ennill Tour de France 2008, gan nad oedd tîm Contador, sef Team Astanawedi cae leu gwahodd i'r ras. Deliodd Evans y crys melyn o gymal 10 hyd 14. Ond, yn ystod esgyniad Alpe d'Huez ar gymal 17, cymerodd Carlos Sastre o Team CSC y blaen gan gipio 2 munud a 15 eiliad oddiar Evans. Erbyn y treial amser, roedd angen i Evans reidio 1 munud a 34 eiliad yn gynt na Sastre. Curodd Sastre a neidiodd i'r ail safle, ond roedd dal 58 eiliad tu ôl iddo erbyn diwedd y Tour.
Dioddefodd rwyg iw tennyn cruciate blaen,[5] ond wedi gwella, cystadlodd Evans yn ras ffordd 245 km Gemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing, gan orffen yn 15fed safle, 22 eiliad tu ôl i Samuel Sánchez.[6] Daeth yn bumed yn y treial amser Olympaidd pedair diwrnod yn ddiweddarach.
Amharwyd ar ymdrechion Evans yn Tour de France 2009 gan ddiffyg cefnogaeth gan ei dîm a diffyg siap da, a llwyddodd ond i orffen yn y 30fed safle, 45 munud tu ôl i'r enillydd, Alberto Contador. Er y siomedigaeth hyn, cafodd fuddugoliaethau yn y Critérium du Dauphiné Libéré a'r Settimana Internazionale Coppi e Bartali.
Daeth yn drydydd yn y Vuelta a España, lle gwisgodd crys aur yr arweinydd yn ystod un cymal, ond fe ddioddefodd trafferthon mecanegol yn ystod esgyniad i ddiwedd cymal ar fynydd Sierra Nevada. Gyda hyn, daeth Evans yn un o'r seiclwyr Awstralaidd mwyaf llwyddiannus, wedi iddo gael dau safle ar y podiwm yn y Tour de France. Daeth yn un o ychydig reidwyr sydd wedi dal y tri crys; y Maglia Rosa, crys arweinydd y Giro d'Italia yn 2002, crys melyn Tour de France am 4 diwrnod yn 2008, a chrys aur arweinydd y Vuelta a España yn 2009.
Enillodd Evans Bencampwriaeth Ras Ffordd y Byd yn Mendrisio, y Swistir ar 27 Medi. Wedi iddo dod yn bencampwr y byd, edrychai fel petai wedi taflu ei hun i mewn i gefnogi ei gyd-aelod tîm, Philippe Gilbert. Credai nifer fod hyn yn arwydd fod y berthynas rhwng ef a Silence-Lotto wedi gwella. Ond, ar ôl diwedd tymor rasio 2009, roedd llawer o ddyfalu yn y wasg, y byddai Evans yn chwilio am dîm newydd i'w gefnogi ar gyfer Tour 2010. Datganwyd ar 31 Hydref ei fod yn gadael y tîm i ganfod sialensau newydd.[7]
Cyhoeddwyd bywgraffiad, Cadel Evans: Close To Flying, gan Hardie Grant Books ym mis Tachwedd 2009.[8]
Symudodd Evans i dîm BMC yn 2010.[9] Dilynodd llwyddiant yn fuan wedyn, gyda buddugoliaeth yn y 2010 Flèche Wallonne, a deliodd y Maglia Rosa wedi cymal 2 Giro d'Italia 2010. Enillodd Evans gymal 7 y Giro d'Italia gan sbrintio oddiar blaen grŵp bach o reidwyr. Gorffennodd yn 5ed yn y dosbarthiad cyffredinol, gan ennill dosbarthiad pwytiau'r Maglia Rosso Passione a dosbarthiad Azzurri d'Italia. Deliodd Evans hefyd y crys melyn yn ystod cymal 9 Tour de France 2010, a hynnu wrth reidio gyda toriad trwch blewyn yn ei benelin chwith, a gafodd yn ystod damwain yn y cymal gynt. Collodd llawer o amser i'r arweinwyr yn ystod cymal 9, a collodd y crys melyn a'r cyfle i gystadlu o ddifrif am y fuddugoliaeth cyffredinol. Gorffennoff yn y 26ed safle, 50 munud a 27 eiliad tu ôl i Alberto Contador.[10]
Cafodd Evans gychwyn gwell i dymor rasio 2011, gan ennill cymal 6 a dosbarhiad cyffredinol y Tirreno–Adriatico, a dosbarthiad cyffredinol Tour de Romandie, mae'r ddau yn ffurfio rhan o gyfres UCI World Tour 2011. Ni gystadlodd yn y Giro d'Italia, gan ddewis yn hytrach i baratoi ar gyfer Tour de France 2011 drwy gystadlu yn y Criterium du Dauphine lle gorffennodd yn ail. Daeth Evans yn drydydd yng nghymal cyntaf y Tour, ac enillodd gymal 4, yr ail ffuddugoliaeth mewn cymal o'r Tour de France yn ei yrfa.[11] Arweiniodd gystadleuaeth brenin y mynyddoedd am un diwrnod wedi cymal 4, a gwisgodd y crys melyn wedi cymal 20 a 21. gan ddod y reidiwr Awstralaidd cyntaf erioed i ennill y Tour de France.[12]
Mae'n briod i Chiara Passerini, pianydd ac athrawes cerdd Eidalaidd. Cyfarfont ar ddiwedd 2002, wedi iddi gael ei chyflwyno iddo gan ffrind i'w thad.
Yn 2008, gwisgodd Evans grys isaf gyda Baner Tibet i gefnogi rhyddid dros Tibet.[13][14] Dywedodd:
- "Trying to bring awareness of the Tibet movement is something someone in my position can do. I just feel really sorry for them. They don't harm anyone and they are getting their culture taken away from them. I don't want to see a repeat of what happened to Aboriginal culture [in Australia] happen to another culture."[14]
- ↑ Aussie Evans wins road race title. BBC Sport (27 Medi 2009). Adalwyd ar 28 Medi 2009.
- ↑ (10 Gorffennaf 2009) Golwg, Cyfrol 21, Rhifyn 43
- ↑ About Cadel. Cadel Evans. Adalwyd ar 7 Mai 2011.
- ↑ Evans first meets Ferrari. Michele Ferrari (23 Gorffennaf 2011).
- ↑ Robert Lusetich (14 Awst 2008). Fearless Cadel Evans fails to stand the test of time. The Australian.
- ↑ Leo Schlink (9 Awst 2008). Australian cyclist Michael Rogers narrowly misses medal in Olympic road race. The Australian.
- ↑ Evans To Leave Silence-Lotto. Cycling News (31 Hydref 2009).
- ↑ (2009) Cadel Evans: Close To Flying (clawr caled), Hardie Grant Books, tud. 272. ISBN 978-1740666671
- ↑ Cyclingnews.com (1 Hydref 2009). BMC confirms Evans signing. Cycling News. Adalwyd ar 1 Hydref 2009.
- ↑ www.letour.fr. Tour de France – 2010. AMAURY SPORT ORGANISATION. Adalwyd ar 17 Medi 2010.
- ↑ Cadel Evans denies Alberto Contador on stage four. The Guardian (5 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 5 Gorffennaf 2011.
- ↑ Rupert Guinness (24 Gorffennaf 2011). Awesome Evans destroys rivals to claim tour. The Sydney Morning Herald. Adalwyd ar 24 Gorffennaf 2011.
- ↑ Cadel Evans support Free Tibet (2008).
- ↑ 14.0 14.1 Photo of Cadel Evans with Flag of Tibet. Phayul.com (22 Gorffennaf 2008).
- Gwefan swyddogol cadelevans.com.au Archifwyd 2015-02-27 yn y Peiriant Wayback
- Proffil ar wefan Cycling Federation Archifwyd 2012-11-28 yn archive.today
- Cyfweliad Cyclingnews.com 2005
- Proffil reidiwr ar wefan swyddogol Tour de France 2006
- Cyfweliad VeloNews.com, Evans regains maglia rosa, eight years later[dolen farw]
1903 Maurice Garin · 1904 Henri Cornet · 1905 Louis Trousselier · 1906 René Pottier · 1907 · - 1908 Lucien Petit-Breton · 1909 François Faber · 1910 Octave Lapize · 1911 Gustave Garrigou · 1912 Odile Defraye · 1913 & 1914 Philippe Thys · 1915-1918 Rhyfel Byd Cyntaf · 1919 Firmin Lambot · 1920 Philippe Thys · 1921 Léon Scieur · 1922 Firmin Lambot · 1923 Henri Pélissier · 1924 & 1925 Ottavio Bottecchia · 1926 Lucien Buysse · 1927 & 1928 Nicolas Frantz · 1929 Maurice De Waele · 1930 André Leducq · 1931 Antonin Magne · 1932 André Leducq · 1933 Georges Speicher · 1934 Antonin Magne · 1935 Romain Maes · 1936 Sylvère Maes · 1937 Roger Lapébie · 1938 Gino Bartali · 1939 Sylvère Maes · 1940-1946 Ail Ryfel Byd · 1947 Jean Robic · 1948 Gino Bartali · 1949 Fausto Coppi · 1950 Ferdinand Kübler · 1951 Hugo Koblet · 1952 Fausto Coppi · 1953, 1954 & 1955 Louison Bobet · 1956 Roger Walkowiak · 1957 Jacques Anquetil · 1958 Charly Gaul · 1959 Federico Bahamontes · 1960 Gastone Nencini · 1961, 1962, 1963 & 1964 Jacques Anquetil · 1965 Felice Gimondi · 1966 Lucien Aimar · 1967 Roger Pingeon · 1968 Jan Janssen · 1969, 1970, 1971 & 1972 Eddy Merckx · 1973 Luis Ocaña · 1974 Eddy Merckx · 1975 Bernard Thévenet · 1976 Lucien Van Impe · 1977 Bernard Thévenet · 1978 & 1979 Bernard Hinault · 1980 Joop Zoetemelk · 1981 & 1982 Bernard Hinault · 1983 & 1984 Laurent Fignon · 1985 Bernard Hinault · 1986 Greg LeMond · 1987 Stephen Roche · 1988 Pedro Delgado · 1989 & 1990 Greg LeMond · 1991, 1992, 1993, 1994 & 1995 Miguel Indurain · 1996 Bjarne Riis · 1997 Jan Ullrich · 1998 Marco Pantani · 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 & 2005 Lance Armstrong · 2006 Óscar Pereiro · 2007 Alberto Contador · 2008 Carlos Sastre · 2009 Alberto Contador · 2010 Andy Schleck · 2011 Cadel Evans · 2012 Bradley Wiggins · 2013 Christopher Froome · 2014 Vincenzo Nibali · 2015 & 2016 & 2017 Christopher Froome · 2018 Geraint Thomas · 2019 Egan Bernal · 2020 & 2021 Tadej Pogačar ·