Chiswick - Wicipedia
![]() | |
Math | ardal o Lundain ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Hounslow, Chiswick Urban District, Municipal Borough of Brentford and Chiswick |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 5.72 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Tafwys ![]() |
Yn ffinio gyda | Acton, Llundain ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4925°N 0.2633°W ![]() |
Cod OS | TQ205785 ![]() |
Cod post | W4 ![]() |
![]() | |
Maestref fawr yw Chiswick wedi ei lleoli yng ngorllewin Llundain Fwyaf, 9.7 cilometr (6 milltir) i'r gorllewin o Charing Cross ar ystum Afon Tafwys. Mae'n ffurfio rhan o Fwrdeistref Llundain Hounslow. Yn hanesyddol roedd Chiswick yn blwyf hynafol yn hen sir Middlesex, gydag economi yn dibynnu ar amaethyddiaeth a pysgota. Yn ystod twf diwydiannol Llundain yn y 19eg a'r 20g tyfodd poblogaeth Chiswick a daeth yn fwrdeistref trefol gyda Brentford ym 1932 a dod yn rhan o Lundain Fawr ym 1965. Mae Caerdydd 202 km i ffwrdd o Chiswick ac mae Llundain yn 11.4 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 9 km i ffwrdd.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]
Mae'n debyg daw'r enw Chiswick o'r Hen Saesneg am fferm gaws (Cheese Farm).
Eginyn erthygl sydd uchod am Llundain Fwyaf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.