Chwefror - Wicipedia
<< Chwefror >> | ||||||
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
1 | 2 | 3 | 4 | |||
5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 |
12 | 13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 |
19 | 20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 |
26 | 27 | 28 | 29 | |||
2024 | ||||||
Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn |
Ail fis y flwyddyn yw Chwefror. Mae ganddo 28 o ddyddiau (neu 29 mewn blynyddoedd naid) yn ôl calendr Gregori. Er hynny, mae'r dyddiad 30 Chwefror wedi cael ei ddefnyddio tair gwaith yn hanes y byd mewn rhai gwledydd.
Mae enw'r mis yn tarddu o'r Lladin februarius mensis - hynny yw mis puredigaethau (februa).
- Chwefror chwyth y neidr o'i nyth
- Chwefror garw; porchell marw
- February filldyke
- Genver a garg ar foz,
- C'hwevrer he dalc'hkloz
- (Mae Ionawr yn llanw'r ffos,
- Chwefror sy’n ei chadw ynghau)[1]
Mae adlais o hyn yn yr ymadrodd Saesneg am Chwefror fel mis y filldyke (llenwi'r ffosydd).
Mae'r gyfrol Telynegion Maes a Môr, gan Eifion Wyn (1908) yn cynnwys cerdd i Chwefror.
Telynegion Misoedd. CHWEFROR
CHWYTH, aeafwynt, fel y mynnot, -
Cryn fy ffenestr a fy nôr
Plyg y deri fel mieri -
Dyro ddawns i longau’r môr;
Byr yw dydd a dyddiau Chwefror,
Cynt y dâl yr hwyr na’r wawr;
Chwyth y crynddail hyd y cwmwl,
Chwyth y ceinciau hyd y llawr.
Yn dy rwysg ac yn dy ryddid
Tros y Cnicht a’r Moelwyn chwyth;
Cadw’r moethus yn ei gaban,
Cadw’r neidr ar ei nyth;
Câr y wennol awel feddal,
Car y gloyn glaear si,
Caraf finnau’th ruad dithau -
Edn y ddrycin ydwyf fi.
Chwyth, aeafwynt, fel y mynnot, -
Cladd y mynydd dan y lluwch,
Cladd y môr o dan yr ewin,
Chwyth, aeafwynt, eto’n uwch;
Ond pe clywit ar ryw dalar
Oenig cynnar yn rhoi brêf,
Tro oddiwrth y dalar honno,
Paid a chwythu arno ef.
- ↑ Cylchgrawn Breizh Llydaw