Coventry - Wicipedia
![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Coventry |
Poblogaeth | 362,690 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | John Blundell ![]() |
Gefeilldref/i | Graz ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Canolbarth Lloegr (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 73.6 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Bedworth ![]() |
Cyfesurynnau | 52.42°N 1.52°W ![]() |
Cod post | CV ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | John Blundell ![]() |
![]() | |
Sefydlwydwyd gan | Leofric ![]() |
Dinas yn sir Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Coventry.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Coventry.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Coventry boblogaeth o 325,949.[2] Coventry yw'r 9fed ddinas fwyaf yn Lloegr a'r 11eg fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r ail ddinas fwyaf yng Nghanolbarth Lloegr yn ôl poblogaeth ar ôl Birmingham.
Mae'n enwog am ei eglwys gadeiriol a ailadeiladwyd ar ôl cael ei dinistrio'n llwyr bron yn y Blitz.
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/46/Cathedral_St_Michaels_Victory.jpg/200px-Cathedral_St_Michaels_Victory.jpg)
Mae ganddi ddwy brifysgol, Prifysgol Coventry yng nghanol y ddinas a Phrifysgol Warwick ar gyrion deheuol y ddinas.
- Amgueddfa'r Heddlu
- Arc Whittle
- Arena Ricoh
- Canolfan Alan Higgs
- Cerflun Arglwyddes Godiva
- Dinas Y Lunt
- Eglwys Gadeiriol
- Sgwar Mileniwm
- Ellen Terry (1847-1928), actores
- Syr Frank Whittle (1907-1996), peiriannydd
- Ivor Preece (1920-1987), chwaraewr rygbi
- Philip Larkin (1922-1985), bardd
- ↑ British Place Names; adalwyd 26 Awst 2020
- ↑ City Population; adalwyd 26 Awst 2020