Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 - Wicipedia
- ️Thu Jul 05 2018
Världsmästerskapet i Fotboll Sverige 1958 | |
---|---|
Manylion | |
Cynhaliwyd | Sweden |
Dyddiadau | 8 – 29 Mehefin |
Timau | 16 (o 3 conffederasiwn) |
Lleoliad(au) | 12 (mewn 12 dinas) |
Pencampwyr | ![]() |
Ail | ![]() |
Trydydd | ![]() |
Pedwerydd | ![]() |
Ystadegau'r Twrnament | |
Gemau | 35 |
Goliau | 126 (3.6 pob gêm) |
Torfeydd | 919,580 (26,274 pob gêm) |
Prif sgoriwr(wyr) | ![]() |
Cynhaliwyd Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 yn Sweden rhwng 8 Mehefin a 29 Mehefin 1958. Dyma oedd y chweched tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal. Llwyddodd Sweden i ennill yr hawl i gynnal y bencampwriaeth yn ystod cyfarfod Cyngres Fifa yn Rio de Janeiro yn ystod Cwpan y Byd 1950 yn Brasil[1] gan ddod â'r arfer o symud y twrnament rhwng yr Americas ac Ewrop am yn ail, i ben.
Roedd Sweden yn sicr o'u lle yn y rowndiau terfynol fel y sawl oedd yn cynnal y twrnament, gyda Gorllewin Yr Almaen hefyd yn ymuno â nhw yn y rowndiau terfynol fel y deiliaid. Cafwyd 53 o wledydd eraill yn ceisio am 14 lle yn y rowndiau terfynol - y nifer fwyaf ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1930.
Dyma oedd y tro cyntaf i Gymru, Gogledd Iwerddon a'r Undeb Sofietaidd gyrraedd y rowndiau terfynol a hefyd y tro cyntaf - a hyd yma yr unig dro - i bedair gwlad Ynysoedd Prydain - Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr ac Yr Alban - ymddangos yn yr un twrnament.
Am y tro cyntaf, penderfynodd Pwyllgor Trefnu Fifa ddetholi'r grwpiau ar sail daearyddiaeth yn hytrach nag ar sail cryfder y timau, gan sicrhau byddai un tîm o Orllewin Ewrop, un tim o ddwyrain Ewrop, un tîm o Ynysoedd Prydain ac un tîm o'r Americas ym mhob grŵp[2].
Pot Gorllewin Ewrop | Pot Dwyrain Ewrop | Pot Ynysoedd Prydain | Pot Yr Americas |
---|---|---|---|
Tîm | Chw | E | Cyf | C | GD | GErb | GG | Ptiau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
3 | 1 | 2 | 0 | 7 | 5 | +2 | 4 |
![]() |
3 | 1 | 1 | 1 | 4 | 5 | -1 | 3 |
![]() |
3 | 1 | 1 | 1 | 8 | 4 | +4 | 3 |
![]() |
3 | 1 | 0 | 2 | 5 | 10 | -5 | 2 |
Tîm | Chw | E | Cyf | C | GD | GErb | GG | Ptiau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
3 | 2 | 0 | 1 | 11 | 7 | +4 | 4 |
![]() |
3 | 1 | 2 | 0 | 7 | 6 | +1 | 4 |
![]() |
3 | 1 | 1 | 1 | 9 | 12 | -3 | 3 |
![]() |
3 | 0 | 1 | 2 | 4 | 6 | -2 | 1 |
Tîm | Chw | E | Cyf | C | GD | GErb | GG | Ptiau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
3 | 2 | 1 | 0 | 5 | 1 | +4 | 5 |
![]() |
3 | 0 | 3 | 0 | 2 | 2 | 0 | 3 |
![]() |
3 | 1 | 1 | 1 | 6 | 3 | +3 | 3 |
![]() |
3 | 0 | 1 | 2 | 1 | 8 | -7 | 1 |
Tîm | Chw | E | Cyf | C | GD | GErb | GG | Ptiau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
3 | 2 | 1 | 0 | 5 | 0 | +4 | 5 |
![]() |
3 | 1 | 1 | 1 | 4 | 4 | 0 | 3 |
![]() |
3 | 0 | 3 | 0 | 4 | 4 | 0 | 3 |
![]() |
3 | 0 | 1 | 2 | 2 | 7 | -5 | 1 |
Enillwyr Cwpan Y Byd 1958 |
---|
![]() Brasil Teitl Cyntaf |
Cwpanau'r Byd Pêl-droed | |
---|---|
Cystadlaethau | Wrwgwái 1930 · Yr Eidal 1934 · Ffrainc 1938 · Brasil 1950 · Y Swistir 1954 · Sweden 1958 · Tsile 1962 · Lloegr 1966 · Mecsico 1970 · Gorllewin yr Almaen 1974 · Yr Ariannin 1978 · Sbaen 1982 · Mecsico 1986 · Yr Eidal 1990 · UDA 1994 · Ffrainc 1998 · De Corea/Japan 2002 · Yr Almaen 2006 · De Affrica 2010 · Brasil 2014 · Rwsia 2018 · Catar 2022 |
- ↑ "Fifa World Cup Host Announcement Decision" (PDF) (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2018-07-05. Cyrchwyd 2014-05-24.
- ↑ "FIFA World Cup Seedings" (PDF) (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2014-05-24.