Cwymp Wall Street - Wicipedia
![]() | |
Enghraifft o: | stock market crash ![]() |
---|---|
Dyddiad | 1929 ![]() |
Dechreuwyd | 24 Hydref 1929 ![]() |
Daeth i ben | 29 Hydref 1929 ![]() |
Lleoliad | Wall Street ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Rhanbarth | Manhattan ![]() |
![]() |
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a4/1930-67B.png/270px-1930-67B.png)
Cwymp marchnad stoc Cyfnewidfa Stoc Efrog Newydd (NYSE) yn Hydref 1929 oedd Cwymp Wall Street. Daeth hyn ag ymchwydd economaidd Unol Daleithiau America yn y 1920au i ben, ac arweiniodd at y Dirwasgiad Mawr.
Dechreuodd y cwymp ar 24 Hydref (Dydd Iau Du) a pharhaodd nes 29 Hydref (Dydd Mawrth Du).
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/f/f4/Ymchwydd_y_Cyfranddaliadau.png/300px-Ymchwydd_y_Cyfranddaliadau.png)
Yn ystod yr ychwydd economaidd, wrth i elw cwmnïau'r Unol Daleithiau gynyddu, gwelwyd prynu cyfranddaliadau fel ffordd di-risg o wneud arian, sef hapfasnachu. Cyn bo hir, roedd gan yr holl wlad obsesiwn gyda'r farchnad stoc, a dechreuodd banciau dderbyn cyfranddaliadau fel gwariant am fenthyciadau. Wrth i fuddsoddwyr golli hyder a gwerthu'u cyfranddaliadau, effeithiodd hyn ar economi'r Unol Daleithiau i gyd.
Roedd polisïau'r llywodraeth Weriniaethol o hybu diwydiant yr Unol Daleithiau, trwy ddefnyddio polisi laissez-faire a chwtogi ar gynnyrch tramor, yn un o brif achosion ychwydd yr 1920au, ond arweiniodd hyn at orgynhyrchu a llai o alw am gynnyrch. Wrth i elw cwmnïau gwympo a swm y stoc heb ei werthu gynyddu, rhuthrodd pobl i werthu eu cyfranddaliadau.
- Galbraith, John Kenneth. The Great Crash 1929 (Llundain, Penguin, 2009 [1954]).