cy.wikipedia.org

Ffiseg - Wicipedia

(Ailgyfeiriwyd o Ffisegwr)

Ffiseg
Enghraifft o:cangen o wyddoniaeth, disgyblaeth academaidd, union wyddoniaeth Edit this on Wikidata
Mathgwyddoniaeth naturiol Edit this on Wikidata
Rhan ogwyddoniaeth ffisegol Edit this on Wikidata
Yn cynnwysastroffiseg, ffiseg arbrofol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ffiseg

Dewislen Ffiseg
Hanes Ffiseg
Canghennau
Mecaneg glasurol
Electromagnetedd
Mecaneg ystadegol · Thermodynameg
Mecaneg Cwantwm
Perthnasedd
Meusydd Ymchwil
Ffiseg cymhwysol
Astroffiseg
Ffiseg atomig, moleciwlaidd ac optig
Bioffiseg
Ffiseg mater cyddwysedig
Geoffiseg
Ffiseg gronynnau
Hen Arbrofion
2-degree-Field Galaxy Redshift Survey
2-Micron All-Sky Survey (2MASS)
Bell test · BOOMERanG · Camera obscura experiments · Cavendish experiment · Cosmic Background Explorer (COBE) · Davisson-Germer · Double slit · Foucault pendulum · Franck Hertz · Gravity Probe A · Gravity Probe B · Geiger–Marsden · Homestake experiment · Oil-drop experiment · Michelson-Morley · Neutrino experiment · Sloan Digital Sky Survey · Stern-Gerlach · Wilkinson Microwave Anisotropy Probe
Arbrofion cyfoes
Gwrthdrawydd ïonau trwm perthnaseddol
HERA · LHC
James Webb Space Telescope
Ffisegwyr
Bohr · Dirac · Einstein · Feynman· Galileo · Heisenberg · Maxwell · Newton · Pauli · Rutherford · Schrödinger · Wigner

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Mae ffiseg (o'r Groeg φυσικός, "naturiol", a φύσις, "natur") neu anianeg (term hynafol am "ddeddfau neu drefn natur") yn gainc o'r astudiaeth wyddonol o fyd natur er mwyn deall sut mae'r bydysawd yn gweithio. Astudiaeth o fater ydyw ynghyd â chysyniadau perthnasol eraill e.e. ynni a grym a'i amcan yw canfod y deddfau sylfaenol sy'n llywodraethu mater, ynni, gofod ac amser.[1][2]

Mae ffiseg yn:

  • disgrifio cyfansoddiad elfennol y bydysawd;
  • disgrifio'r rhyngweithiadau rhwng elfennau'r bydysawd;
  • dadansoddi systemau drwy ddefnyddio egwyddorion sylfaenol.

Gwneir defnydd helaeth o gydberthnasau mathemategol i ddisgrifio deddfau ffiseg.

Mae ffisegwyr yn cymryd yn ganiataol bodolaeth mas, hyd, amser, cerrynt trydanol a thymheredd ac oddi wrth y rhain yn gallu diffinio pob maint ffiseg arall.

Ffiseg yw'r wyddoniaeth o mater, ymddygiad y mater a mudiant. Dyma un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf. Yr hen Roegwr Aristotlys a gyfansoddodd y gwaith ysgrifenedig cyntaf am ffiseg.

Yng Nghymru, sefydlwyd cadair ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1877, Caerdydd yn 1883 a Bangor yn 1884.

Mae ffiseg yn cwmpasu ffenomenau eang, o'r gronynnau is-atomig bychan, i'r galaethau anferthol. Mae'r gwrthrychau mwyaf syml yn cael eu cynnwys mewn ffiseg ac felly dywedir fod ffiseg yn "wyddoniaeth sylfaenol". Mae ffiseg yn ceisio disgrifio ffenomena amrywiol sy'n digwydd mewn natur mewn termau syml. Felly, mae ffiseg yn bwriadu cysylltu'r pethau pob dydd yr ydym yn eu gweld o’n cwmpas i darddiad yr achos yn y gobaith o ffeindio'r rheswm eithafol ar gyfer ein bodolaeth. Er enghraifft, roedd y Tsieineaid hynafol wedi arsylwi bod yna rymoedd anweledig rhwng mathau gwahanol o greigiau. Adnabyddir yr effaith yma erbyn hyn fel magneteg neu magnetedd. Yn gynharach darganfu'r Groegwyr hynafol drydan wrth rwbio gwefr efo ffwr. Roedd datblygiadau technoleg yn yr 19g wedi dangos cysylltiad rhwng y ddwy theori. Gelwir hyn yn electromagnetedd.

Mae gan ffiseg berthynas agos â'r gwyddorau naturiol eraill, yn enwedig cemeg. Gelwir cemeg ar sawl maes yn ffiseg, yn enwedig mecaneg cwantwm, thermodynameg ac electromagnetedd. Er hynny, mae ffenomenau cemeg yn ddigon amrywiol a chymhleth i drin cemeg fel disgyblaeth ar wahân. Sut bynnag, derbyniwyd yn gyffredinol gan gemegwyr a ffisegwyr taw deddfau ffiseg sy'n disgrifio camau sylfaenol pob rhyngweithiad cemegol.

  • Seryddwr uwchben Y Ddaear

  • System Thermodynameg

  • Cerrynt trydanol yw mellt.

  • Isaac Newton

    Isaac Newton

  1. "Physics is an experimental science. Physicists observe the phenomena of nature and try to find patterns that relate these phenomena."Young & Freedman 2014, t. 2
  2. "Physics is the study of your world and the world and universe around you."; Holzner 2006 tud 7}

Y pedwar Rhyngweithiad Sylfaenol Ffiseg