Granada - Wicipedia
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref Sbaen ![]() |
---|---|
Prifddinas | Granada city ![]() |
Poblogaeth | 232,717 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Marifrán Carazo ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Freiburg im Breisgau, Aix-en-Provence ![]() |
Nawddsant | Caecilius of Elvira, Q60968240 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Granada notarial district, Vega de Granada ![]() |
Sir | Talaith Granada ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 88.02 km² ![]() |
Uwch y môr | 693 metr ![]() |
Gerllaw | Darro ![]() |
Yn ffinio gyda | Armilla, Pulianas, Maracena, Atarfe, Santa Fe, Vegas del Genil, Churriana de la Vega, Ogíjares, La Zubia, Cájar, Huétor Vega, Cenes de la Vega, Pinos Genil, Dúdar, Beas de Granada, Huétor Santillán, Víznar, Jun ![]() |
Cyfesurynnau | 37.1781°N 3.6008°W ![]() |
Cod post | 18001–18015, 18182, 18190 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Granada ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Marifrán Carazo ![]() |
![]() | |
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7a/Alhambra_view.jpg/250px-Alhambra_view.jpg)
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, Sbaen, yw Granada, sy'n brifddinas talaith Granada. Saif wrth droed mynyddoedd y Sierra Nevada, 738 medr uwch lefel y môr. Yn 2005 roedd poblogaeth y ddinas yn 236,982.
Adeilad enwocaf Granada yw'r Alhambra, caer a phalas o'r cyfnod Islamaidd. Oherwydd yr Alhambra a nifer o atyniadau eraill, er enghraifft ar fryn yr Albaicín, mae Granada yn gyrchfan bwysig i dwristiaid. Mae Prifysgol Granada hefyd yn adnabyddus.
Roedd sefydliad yma yn y cyfnod Celtiberaidd, yna bu dinas Roegaidd yma dan yr enw Elibyrge neu Elybirge. Dan y Rhufeiniaid, gelwid hi yn "Illiberis". Cipiwyd y ddinas gan fyddin Islamaidd dan Tariq ibn-Ziyad yn 711. Yn 1013 daeth Granada yn deyrnas annibynnol dan swltan, ac yn 1228 daeth brenhinllin y Nasrid i rym yma. Hwy a adeiladodd yr Alhambra ac adeiladau eraill.
Ar 2 Ionawr 1492, ildiodd y teyrn mwslimaidd olaf, Muhammad XII, a elwid yn Boabdil gan y Cristionogion, y ddinas i fyddin Ferdinand ac Isabella, Los Reyes Católicos ("Y Teyrnoedd Catholig").
Mae'r Alhambra, y Generalife a'r Albaicín yn Safle Treftadaeth y Byd.
- Leo Africanus (c.1494-c.1554?), awdur
- Federico García Lorca (1898–1936), bardd a dramodydd