cy.wikipedia.org

Liam Williams - Wicipedia

Liam Williams
Ganwyd9 Ebrill 1991 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra188 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau88 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Scarlets, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCefnwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Chwaraewr rygbi'r undeb sydd wedi chwarae dros Gymru yw Liam Williams (ganwyd 9 Ebrill 1991). Mae'n chwarae yn safle'r cefnwr gan amlaf, ond wedi chwarae ar yr asgell hefyd. Mae Williams yn adnabyddus am ei steil rhedeg anarferol a'i arddull chwarae di-ofn.[1]

Pan yn fachgen ysgol, bu Williams yn chwarae rygbi gyda'i glwb lleol Clwb Rygbi Waunarlwydd. Ni chafodd ei ddewis gan unrhyw un o'r academïau profesiynol y rhanbarthau, ac felly pan oedd yn 16 oed aeth i weithio fel sgaffaldiwr dan hyfforddiant yng Ngwaith Dur Port Talbot, tra'n parhau i chwarae i Waunarlwydd.[2]

Cafodd ei arwyddo gan y Scarlets pan oedd yn 20 oed, a threuliodd ei flwyddyn gyntaf (2010-11) yn chwarae i Glwb Rygbi Llanelli.

Yn 2017, cyhoeddwyd y byddai Williams yn ymuno â chlwb Saracens yn Lloegr ar gytundeb tair blynedd.[3] Roedd ei benderfyniad wedi'i ysgogi yn rhannol gan ei garwriaeth â'r fodel o Gymru, Sophie Harries, a oedd yn byw yn Llundain.[4]

Ym mis Tachwedd 2011, cafodd Williams ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Awstralia ar 3 Rhagfyr 2011.[5] Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru yn erbyn y Barbariaid ar 2 Mehefin 2012 yn Stadiwm y Mileniwm. Sgoriodd ei gais rhyngwladol cyntaf ar 15 Mawrth 2014 yn erbyn yr Alban ac fe'i enwyd yn Seren y Gêm.

Dewiswyd Williams ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017. Cafodd gerdyn melyn yn ei gêm gyntaf ar y daith, ond rhoddodd berfformiad disglair yn y gêm ganlynol. Dechreuodd Williams ym mhob gêm o'r gyfres brawf yn erbyn y Crysau Duon yn safle'r cefnwr.

Dechreuodd Williams bob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019. Cafodd wobr "Seren y Gêm" yn erbyn Lloegr, bu raid iddo adael y maes gydag anaf yn erbyn yr Alban, ond yr oedd wedi gwella erbyn y gêm olaf yn erbyn Iwerddon i sichrau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.