Llywelyn Fardd I - Wicipedia
Llywelyn Fardd I | |
---|---|
Ganwyd | 1125 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 1200 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Blodeuodd | 1150 ![]() |
Un o Feirdd y Tywysogion yn y 12g oedd Llywelyn Fardd I (fl. tua 1125 - 1200). Fe'i gelwir yn Llywelyn Fardd I gan ysgolheigion er mwyn gwahaniaethu rhyngddo â bardd arall o'r un enw (Llywelyn Fardd II) a ganai yn y 13g.[1]
Ychydig iawn a wyddom am Llwyelyn Fardd ond ar sail ei farddoniaeth gellid cynnig ei fod yn blodeuo yn ail hanner y 12g (ceir cerdd ganddo i'r Abad Morfran o Dywyn a fu farw yn 1147). Ceir dwy gerdd ganddo lle mynegir ei gariad amlwg at gantref Meirionnydd ac mae hyn yn awgrymu ei fod yn frodor o'r cantref hwnnw. Mae'n bosibl mai gŵr o'r enw Cywryd oedd ei dad.[1]
Canodd Llywelyn Fardd i dywysogion Powys a Gwynedd. Ceir pum cerdd ganddo yn y llawysgrifau. Mae 'Canu Cadfan' yn awdl grefyddol i Sant Cadfan a cheir cerdd ar 'Arwyddion Dydd Brawd' hefyd. Cedwir tair cerdd i noddwyr seciwlar, sef dadolwch i Owain Fychan (m. 1187), un o feibion Madog ap Maredudd o Bowys; marwnad Cedifor ap Genillyn, uchelwr o Feirionnydd; arwyrain i Owain Gwynedd (m. 1170), brenin Gwynedd.[1]
- Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd I', yn Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o Feirdd y Ddeuddegfed Ganrif, gol. Kathleen Anne Bramley et al. (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994). Y golygiad safonol o waith Llywelyn Fardd, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.