cy.wikipedia.org

Pierre-Auguste Renoir - Wicipedia

Pierre-Auguste Renoir
GanwydPierre Auguste Renoir Edit this on Wikidata
25 Chwefror 1841 Edit this on Wikidata
Limoges Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 1919, 17 Rhagfyr 1919 Edit this on Wikidata
Cagnes-sur-Mer Edit this on Wikidata
Man preswylLimoges, Paris, Cagnes-sur-Mer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts
  • Académie Suisse Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, darlunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon, arlunydd graffig, porcelain painter Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYoung Girls in Black, Two Sisters, La loge, Luncheon of the Boating Party, La Grenouillère Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), noethlun, paentiad mytholegol, celf tirlun, animal art, figure, celf genre, celf y môr, portread, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd Edit this on Wikidata
MudiadArgraffiadaeth Edit this on Wikidata
PriodAline Renoir Edit this on Wikidata
PartnerLise Tréhot, Frédérique Vallet-Bisson Edit this on Wikidata
PlantPierre Renoir, Jean Renoir, Claude Renoir, Lucienne Bisson, Jeanne Tréhot Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Commandeur de la Légion d'honneur‎ Edit this on Wikidata
llofnod
Pierre-Auguste Renoir, La Parisienne, 1874. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Arlunydd o Ffrainc oedd Pierre-Auguste Renoir (25 Chwefror 18413 Rhagfyr 1919). Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.

Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.

Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885–1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894–1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901–69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre.

Pierre-Auguste Renoir, ca.1910

Cafodd ei eni yn Limoges, Haute-Vienne, Ffrainc i deulu tlawd. Dechreuodd weithio fel peintiwr ar borslen. Symudodd i Baris, gan ymuno â stiwdio'r arlunydd ffasiynol Charles Gleyre tua 1861-2. Ym Mharis cyfarfu â Claude Monet ac ym 1869 dechreuodd y ddau weithio gyda'i gilydd yn sgetsio wrth Afon Seine.

Bu'n anhapus gyda'r system swyddogol Salon a oedd yn araf i arddangos gwaith newydd a mentrus. Ym 1873 bu Renoir ymhlith y grŵp o artist, yn cynnwys Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cézanne, a ffurfiodd y Société Anonyme Coopérative des Artistes Peintres 6 o gynfasau mewn arddangosfa'r Société Anonyme a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel yr arddangosfa Impressionniste (Argraffiadol) gyntaf.

Yn ystod y 1880au teithiodd Renoir dramor, yn ymweld â'r Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Lloegr, Yr Almaen ac Algeria. Bu'n edmygwr mawr o Raffael, Diego Velázquez, a Peter Paul Rubens, a bu'n ddylanwad ar ei waith.[1]

Ar ddiwedd ei oes, dioddefodd arthritis a bu rhaid clymu ei frwsh i'w law er mwyn iddo ei ddal.[2]

Ym 1919, blwyddyn olaf ei fywyd, prynodd oriel fwyaf Paris y Louvre un o'i luniau, anrhydedd mawr iddo ac yn arwydd o'r sefydliad celf yn derbyn gwaith Impressionniste o'r diwedd.[3]

Mae dau o ddarluniau Renoir wedi'u gwerthu am fwy na $70 miliwn dolar. Gwerthwyd Bal au moulin de la Galette am $78.1 miliwn ym 1990, un o'r darluniau drytach y byd ar y pryd.

Yn 2012, cafodd un o gynfasau Renoir Paysage bord du Seine ei rhoi ar werth mewn ocsiwn ond ddarganfuwyd a gafodd ei ddwyn o Oriel Gelf Baltimore ym 1951 a fe'i dynnwyd yn ôl o'r farchnad.

  • Y Bocs Theatr, 1874 Oriel Sefydlaid Courtaul

    Y Bocs Theatr, 1874
    Oriel Sefydlaid Courtaul

  • La Balançoire, 1876 Musée d'Orsay, Paris

    La Balançoire, 1876
    Musée d'Orsay, Paris

  • Dawns yn Le Moulin de la Galette, 1876

    Dawns yn Le Moulin de la Galette, 1876

  • Lise'n gwnïo, 1866 Amgueddfa Gelf Dallas

    Lise'n gwnïo, 1866
    Amgueddfa Gelf Dallas

  • La Grenouillère, 1868 Amgueddfa Stockholm

    La Grenouillère, 1868
    Amgueddfa Stockholm

  • Portread Alfred Sisley, 1868

    Portread Alfred Sisley, 1868

  • Claude Monet yn peintio yn ei ar ardd yn Argenteuil, 1873 Wadsworth Atheneum, Connecticut

    Claude Monet yn peintio yn ei ar ardd yn Argenteuil, 1873
    Wadsworth Atheneum, Connecticut

  • Portread Claude Monet, 1875, Musée d'Orsay

    Portread Claude Monet, 1875,
    Musée d'Orsay

  • Merch gyda chan dyfrio, 1876 Oriel Gelf Genedlaethol Washington, D.C.

    Merch gyda chan dyfrio, 1876
    Oriel Gelf Genedlaethol Washington, D.C.

  • Mme. Charpentier a'i phlant, 1878 Amgueddfa Gelf Metropolitan

    Mme. Charpentier a'i phlant, 1878
    Amgueddfa Gelf Metropolitan

  • Portread Alphonsine Fournaise, 1879 Musée d'Orsay

    Portread Alphonsine Fournaise, 1879
    Musée d'Orsay

  • Wrth y Dŵr, 1880 Sefydliad Celf Chicago

    Wrth y Dŵr, 1880
    Sefydliad Celf Chicago

  • Cinio'r Hwylwyr, 1880–1881 Casgliad Phillips Collection, Washington, D.C.

    Cinio'r Hwylwyr, 1880–1881
    Casgliad Phillips Collection, Washington, D.C.

  • Portread Charles a Georges Durand-Ruel, 1882

    Portread Charles a Georges Durand-Ruel, 1882

  • Dance at Bougival, 1882–1883 Amgeuddfa Gelf Gain Boston

    Dance at Bougival, 1882–1883
    Amgeuddfa Gelf Gain Boston

  • Dawns yn y Wlad (Aline Charigot a Paul Lhote), 1883 Musée d'Orsay, Paris

    Dawns yn y Wlad (Aline Charigot a Paul Lhote), 1883
    Musée d'Orsay, Paris

  • Astudiaeth Pensil ar gyfer Dawns yn y Wlad, 1883 Amgueddfa Gelf Honolulu

    Astudiaeth Pensil ar gyfer Dawns yn y Wlad, 1883
    Amgueddfa Gelf Honolulu

  • Plant ar y Traeth yn Guernsey, 1883, Sefydliad Barnes, Philadelphia

    Plant ar y Traeth yn Guernsey, 1883, Sefydliad Barnes, Philadelphia

  • Jeune garçon sur la plage d'Yport, 1883 Sefydliad Barnes, Philadelphia

    Jeune garçon sur la plage d'Yport, 1883
    Sefydliad Barnes, Philadelphia

  • Merch gyda Chylchyn , 1885 Amgeuddfa Gelf Genedlaethol, Washington, D.C.

    Merch gyda Chylchyn , 1885
    Amgeuddfa Gelf Genedlaethol, Washington, D.C.

  • Merch yn Platio ei Gwallt (Suzanne Valadon), 1885

    Merch yn Platio ei Gwallt (Suzanne Valadon), 1885

  • Julie Manet gyda Chath, 1887

    Julie Manet gyda Chath, 1887

  • Portread Berthe Morisot a'i Merch Julie Manet, 1894

    Portread Berthe Morisot a'i Merch Julie Manet, 1894

  • Gabrielle Renard a'r mab bach Jean Renoir, 1895

    Gabrielle Renard a'r mab bach Jean Renoir, 1895

  • Teulu'r Artist, 1896 Sefydliad Barnes, Philadelphia

    Teulu'r Artist, 1896
    Sefydliad Barnes, Philadelphia

  • Portread Ambroise Vollard, 1908

    Portread Ambroise Vollard, 1908

  • Portread Paul Durand-Ruel, 1910

    Portread Paul Durand-Ruel, 1910

  • Portread Ambroise Vollard, 1917

    Portread Ambroise Vollard, 1917

  • Hunan Bortread, 1875

    Hunan Bortread, 1875

  • Hunan Bortread, 1876

    Hunan Bortread, 1876

  • Hunan Bortread, 1910

    Hunan Bortread, 1910

  • Hunan Bortread, 1910

    Hunan Bortread, 1910

  • Diana yr Helwraig, 1867 Amgueddfa Gelf Genedlaethol, Washington, DC

    Diana yr Helwraig, 1867
    Amgueddfa Gelf Genedlaethol, Washington, DC

  • Noeth yn yr Haul, 1875 Musée d'Orsay, Paris

    Noeth yn yr Haul, 1875
    Musée d'Orsay, Paris

  • Merch yn eistedd, 1883

    Merch yn eistedd, 1883

  • Yr Ymdrochwyr Mawr', 1887 Amgueddfa Gelf Philadelphia

    Yr Ymdrochwyr Mawr', 1887
    Amgueddfa Gelf Philadelphia

  • Wedi'r Bath, 1888

    Wedi'r Bath, 1888

  • Tair Ymdrochwriag, 1895 Amgeuddfa Gelf Cleveland, Ohio

    Tair Ymdrochwriag, 1895
    Amgeuddfa Gelf Cleveland, Ohio

  • Noeth Amgueddfa Gelf Genedlaethol Serbia

    Noeth
    Amgueddfa Gelf Genedlaethol Serbia

  • Wedi'r Bath, 1910 Sefydlaid Barnes, Philadelphia

    Wedi'r Bath, 1910
    Sefydlaid Barnes, Philadelphia

  • Merch wrth y Ffynnon, 1910

    Merch wrth y Ffynnon, 1910

  • Ymdrochwraig, yn Sychu ei Choes wrth Eistedd, 1914 Musée de l'Orangerie, Paris

    Ymdrochwraig, yn Sychu ei Choes wrth Eistedd, 1914
    Musée de l'Orangerie, Paris

  • Meched yn Ymdrochi, 1916 Amgeuddfa Genedlaethol, Stockholm

    Meched yn Ymdrochi, 1916
    Amgeuddfa Genedlaethol, Stockholm

  • Ymdrochwyr, 1918 Sefydliad Barnes, Philadelphia

    Ymdrochwyr, 1918
    Sefydliad Barnes, Philadelphia