Swydd Henffordd - Wicipedia
![]() | |
![]() | |
Math | siroedd seremonïol Lloegr, ardal awdurdod unedol yn Lloegr ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Gorllewin Canolbarth Lloegr |
Prifddinas | Henffordd ![]() |
Poblogaeth | 193,615 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,179.7094 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Swydd Amwythig, Swydd Gaerwrangon, Swydd Gaerloyw, Powys, Gwent ![]() |
Cyfesurynnau | 52.08°N 2.75°W ![]() |
Cod SYG | E06000019 ![]() |
GB-HEF ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Herefordshire Council ![]() |
![]() | |

Sir seremonïol a sir hanesyddol yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ar y ffin â Chymru, yw Swydd Henffordd (Saesneg: Herefordshire). Dinas Henffordd yw ei chanolfan ac mae'n ffinio gyda Swydd Amwythig i'r gogledd, Gwent i'r de-orllewin a Phowys i'r gorllewin. Mae gan ddinas Henffordd boblogaeth o oddeutu 55,800 ond mae'r sir ei hun yn denau iawn ei phoblogaeth gyda dwysedd poblogaeth o 82/km² (212/mi sg). Mae llawer o'r sir yn dir amaethyddol a cheir canran uchel yn dir tyfu ffrwythau (afalau seidr) a gwartheg Henffordd.

Mae Swydd Henffordd yn un o 39 swydd hanesyddol Lloegr (Ancient counties of England). Yn 1974 cafodd ei huno gyda Swydd Gaerwrangon i ffurfio sir Henffordd a Chaerwrangon. Daeth y sir i ben yn 1998.[1]
Fe glywid y Gymraeg yn cael ei siarad mewn rhannau o'r sir hyd c. 1890 e.e. yn Ffwddog, Cwm-iou a Llanddewi Nant Hodni.[2]
Nid yw'r sir wedi'i rhannu'n ardaloedd awdurdod lleol; gweinyddir y sir gyfan fel awdurdod unedol, sef Swydd Henffordd (awdurdod unedol).
Rhennir y sir yn ddwy etholaeth seneddol yn San Steffan:
- ↑ Gwefan Saesneg www.ukbmd.org.uk; Teitl: REGISTRATION DISTRICTS IN HEREFORD & WORCESTER; adalwyd 1 Awst 2014
- ↑ Wales and her language gan John E. Southall Amazon