Unbennaeth - Wicipedia
![]() | |
Enghraifft o: | math o lywodraeth ![]() |
---|---|
Math | awtocratiaeth, unbennaeth ![]() |
![]() |
Gwleidyddiaeth |
---|
![]() |
Safbwyntiau |
Geirfa |
Unbennaeth yw'r drefn wleidyddol lle llywodraethir gwlad gan unigolyn, yr unben, sy'n llywodraethu mewn dull awtocrataidd a heb ddod i rym trwy etifeddiaeth fel yn achos brenin.
Daw'r gair Cymraeg unben o'r elfennau 'un' + 'pen' (pennaeth, rheolwr). Mae'r gair cyfatebol yn y rhan fwyaf o iaeithoedd yn tarddu o'r gair Lladin dictatus. Tardda o gyfnod y Rhufain Hynafol pan roddwyd grym absoliwt i reolwr, dros dro yn unig, mewn argyfwng gwladol.
![](https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/83/Democracyindex2.png/250px-Democracyindex2.png)
Defnyddir gwahanol deitlau gan yr unben i ddynodi ei safle, yn aml yn fersiynau o'r gair "arweinydd". Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus o'r 20fed ganrif mae:
- Francisco Franco, el Caudillo, Sbaen
- Adolf Hitler, Der Führer, yr Almaen
- Benito Mussolini, il Duce, yr Eidal
- Kim Il-sung, yr Arweinydd Mawr, Gogledd Corea
- Nicolae Ceauşescu, 'Conducător, Rwmania