William Tecumseh Sherman - Wicipedia
William Tecumseh Sherman | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 8 Chwefror 1820 ![]() John Sherman Birthplace ![]() |
Bu farw | 14 Chwefror 1891 ![]() o niwmonia ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, cyfreithiwr, banciwr, llenor ![]() |
Swydd | United States Secretary of War, aelod o fwrdd, aelod o fwrdd ![]() |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol ![]() |
Tad | Charles Robert Sherman ![]() |
Mam | Mary Hoyt ![]() |
Priod | Eleanor Boyle Ewing Sherman ![]() |
Plant | Eleanor Sherman Thackara, Thomas Ewing Sherman, William Tecumseh Sherman ![]() |
llofnod | |
![]() |
Milwr, gŵr busnes, addysgwr ac awdur o'r Unol Daleithiau oedd William Tecumseh Sherman (8 Chwefror 1820 - 14 Chwefror 1891).
Ganed ef yn Lancaster, Ohio, yn fab i gyfreithiwr llwyddiannus. Enwyd ef ar ôl Tecumseh, pennaeth enwog y Shawnee. Gwasanaethodd fel cadfridog ym myddin y Gogledd yn Rhyfel Cartref America. Gwasanaethodd dan y Cadfridog Ulysses S. Grant yn 1862 a 1863, yn ystod y brwydrau a arweiniodd at gipio Vicksburg ar Afon Mississippi a gorchfygu byddinoedd y De yn nhalaith Tennessee. Yn 1864, dilynodd Grant fel arweinydd byddin y Gogledd yn y gorllewin. Llwyddodd i gipio dinas strategol bwysig Atlanta. Ystyrid hyn yn arwydd fod buddugolaeth y Gogledd ar y gorwel, a gwnaeth lawer i sicrhau ail-etholiad Abraham Lincoln fel Arlywydd yr un flwyddyn. Wedi hyn, dechreuodd Sherman ar ymgyrch trwy dalaith Georgia a De a Gogledd Carolina, gan greu cymaint o ddifrod nes amharu'n ddifrifol ar allu'r de i barhau'r rhyfel. Yn Ebrill 1865, ildiodd holl fyddinoedd y de yn Georgia, y ddwy Carolina a Florida iddo.
Pan ddaeth Grant yn Arlywydd, olynodd Sherman ef fel arweinydd byddin yr Unol Daleithiau. Yn y swydd yma, bu'n gyfrifol am y rhyfeloedd yn erbyn y brodorion yng ngorllewin yr Unol Daleithiau. Yn 1875, cyhoeddodd Memoirs, un o'r llyfrau mwyaf adnabyddus i ddeillio o'r Rhyfel Cartref.