iaith - Wiciadur
Oddiwrth Wiciadur, y geiriadur rhydd.
Cymraeg
Cynaniad
Geirdarddiad
Cymraeg Canol ieith o’r Gelteg *jextis o’r gwreiddyn Indo-Ewropeg *i̯ek- ‘siarad’ a welir hefyd yn y Lladin iocus ‘dywediad; cellwair, ffraetheb’, yr Hen Almaeneg Uchel jehan ‘siarad, dweud, cyffesu’ a’r Tochareg A yask ‘galw, cardota’. Cymharer â’r Gernyweg yeth, y Llydaweg yezh a’r Gwyddeleg Canol icht ‘pobl, cenedl, tylwyth’.
Enw
iaith b (lluosog: ieithoedd)
- Dull cyfundrefnus o gyfathrebiad dynol, sydd naill ai’n lafar neu’n ysgrifenedig, gyda strwythur arbennig er mwyn cyfleu negeseuon.
Nodyn defnydd
- Ni ddylid dweud yr iaith Gymraeg/Saesneg/Ffrangeg a.y.b. am fod yr ôl-ddodiad -eg yn dangos mai iaith yw’r gair.
Cyfystyron
- (henaidd) tafod
Termau cysylltiedig
- tarddeiriau: cyfiaith, ieitheg, ieithog, ieithydd
- cyfansoddeiriau: amgylchiaith, bratiaith, creoliaith, cymysgiaith, dwyiaith, gogylchiaith, gweniaith, heniaith, hynafiaith, ieithwedd, llediaith, mamiaith, tafodiaith, uwchiaith
- cyfuniadau: iaith arwyddion, iaith ddifrïol, yr iaith fain (Saesneg)
- ieithyddiaeth, ieithyddol